Rydym yn cynnig arweiniad o wasanaethau sydd yn cynnwys y canlynol:
Sicrhau fod gennym ddealltwriaeth llawn o’ch busnes.  Trafod gyda chi sut orau i gadw dogfennau ar gyfer y busnes a chynnig gwasanaethau cadw llyfrau os oes angen.

Cwblhau cyfrifon ar gyfer unigolion a phartneriaethau yn flynyddol a chadw cyswllt agos gyda chi i sicrhau fod y cyfrifon yn rhoi golwg deg o dradio’r busnes am y cyfnod arbennig.
Mae gennym yr arbenigedd proffesiynol sydd ei angen i gwblhau archwiliad statudol yn ôl y gofynion ar gyfer cwmnïau cyfyngedig.
Tra bod gennym y deallusrwydd sydd ei angen yn unol â gofynion angenrheidiol yn ôl y gyfraith cymerwn y cyfle i sicrhau ein bod yn cydweithio yn agos er mwyn cyfoethogi eich busnes.

Ymdrechu i adnabod problemau a gallwn gymryd y cyfle i gynghori ynglŷn ag unrhyw welliannau y gallwn ei weld sydd ei angen ar y busnes.  Cydweithio yn agos gyda chi er mwyn cael y canlyniadau gorau ar gyfer eich busnes.
Gallwn gwblhau cyfrifon rheoli ar gyfer cwmniau, os oes angen, i alluogi cwmni i weld yn union  y ffordd ymlaen ynglŷn a’u materion ariannol i’w galluogi i wneud penderfyniadau dyddiol ac ystyrlon o ddydd i ddydd.
Cael eich materion TAW i drefn i gwblhau ffurflenni chwarterol.

Ar gyfer y clientydd hynny sydd yn mynd i ymdrin â chwblhau eu ffurflenni TAW eu hunain gallwn
gynnig gwasanneth o anfon yr wybodaeth ar gyfer TAW ar lein i Gyllid aThollau EM.

Mae gennym yr arbenigedd i ddelio gyda materion TAW mwy cymhleth fel cwblhau ffurflenni TAW
lle mae busnesau yn aml wedi eu heithrio.

Cynnig gwasanaeth proffesiynol i roi cyngor ar yr oll o agweddau ynglŷn a TAW.
Gallwn ymdopi â phob agwedd o’r dreth yn cynnwys:
Treth lncwm a Hunan Asesiad
Treth Enillion Cyfalaf
Treth Etifeddiaeth
Treth Gorfforaeth
Cydweithio gyda'n clientydd i sicrhau ein bod yn cael dealltwriaeth llawn o’r busnes.
Cwblhau Cynlluniau Busnes, Rhagolygon Llif Arian, ceisiadau grantiau a chynghori ynglŷn â sefydlu busnes o’r newydd.

Cyngor ynglŷn â mentrau cymdeithasol.

.
Mae gennym dîm arbenigol sydd yn delio gyda materion fel:
Gweinyddu materion PAYE, Yswiriant Gwladol, Tâl Salwch Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl
gwyliau a.y.y.b.

Anfon y talebion angenrheidiol wythnosol neu misol i chi ar gyfer y rhai sydd yn cael eu cyflogi
gennych.

Rhoi gwybod i chi’r symiau misol sydd i’w talu i Gyllid a Thollau EM.

Delio gyda materion sydd yn ymdrîn â Chynllun Pensiwn y cwmni.

Cyngor ar lefelau cyflog i’r gweithwyr.

Rhoi cyngor ynglŷn â  materion diswyddo a.y.y.b.
Cwblhau cyfrifon a’u hanfon i Dy’r Cwmnïau ac i Gyllid a Thollau EM ar lein.

Cwblhau ffurflenni angenrheidiol a’u hanfon i Dy’r Cwmnïau.

Os bydd angen, cwblbau materion yn ymwneud â dyletswyddau statudol ynglŷn â gwaith ysgrifenyddol y cwmni.

Rhoi cyngor ynglŷn â materion yn ymwneud â Deddf Cwmnïau.
 

Cysylltu â Ni:

11-15 Y Bont Bridd

Caernarfon

Gwynedd  LL55 1AB

Ffôn:  01286  673555



Ffurflen gysylltu

Polisi Preifatrwydd

Da
rparu Gwasanaethau
https://lucknowwebs.com
Ein Harbenigedd:

Amaethyddiaeth

Proffesiwn Iechyd

Elusennau





© 2019 W.J.Matthews a'i Fab

Hawlfraint: Cedwir Pob Hawl
icaew logo
Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a lloegr  (SCSC)
ciot logo

Sefydliad Treth Siartredig  (CIOT)
Pobol y We
Dylunio Gwe Ymatebol