Hanes

Mae W. J. Matthews yn gwmni o Gyfrifwyr Siartredig, Archwiliwr Cofrestredig ac yn Ymgynghorwyr Treth Cofrestredig.  Fe sefydlwyd y practis yn 1919 gan W J Matthews ac fe olynwyd dros 60 mlynedd yn ôl gan ei fab, y diweddar W Trefor Matthews.  Erbyn hyn mae gan y practis ddau bartner, Laura M. Adams a David Chidley.

Bu’r practis yn rhedeg am ddegawdau o’r swyddfa yn 34 Y Maes cyn ail leoli dros bymtheg mlynedd yn ôl yn 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon.

Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
EIN PARTNERIAID
Laura M. Adams
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerfaddon gyda gradd mewn Gwyddorau Naturiol, cymhwysodd Laura fel Cyfrifydd Siartredig mewn practis yn Ascot, Berkshire.  Yn ddiweddarach ymunodd â'r tîm archwilio mewnol mewn cwmni mawr olew a nwy am bum mlynedd.  Dychwelodd Laura gyda'i theulu ifanc i Ogledd Cymru ac yn ôl i weithio fel Cyfrifydd Siartredig yn 2018 a dod yn bartner yn W J Matthews yn 2019.
David Chidley
Ar ôl graddio mewn Cyllid a Chyfrifeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, dechreuodd David ei yrfa gyda ffyrm leol o Gyfrifwyr a chymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig yn 1996.  Ymunodd gyda W J Matthews a’i Fab yn 2000 a dechreuodd adolygu ar gyfer bod yn Ymgynghorydd Treth Siartredig gan gymhwyso yn 2001.  Mae David yn arbenigo mewn cyfrifyddiaeth, archwilio a threth ar gyfer pob math o fusnesau o’r hunan gyflogedig i gwmnïau mawr cyfyngedig.

Cysylltu â Ni:

11-15 Y Bont Bridd

Caernarfon

Gwynedd  LL55 1AB

Ffôn:  01286  673555



Ffurflen gysylltu

Polisi Preifatrwydd

Da
rparu Gwasanaethau
https://lucknowwebs.com
Ein Harbenigedd:

Amaethyddiaeth

Proffesiwn Iechyd

Elusennau





© 2019 W.J.Matthews a'i Fab

Hawlfraint: Cedwir Pob Hawl
icaew logo
Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a lloegr  (SCSC)
ciot logo

Sefydliad Treth Siartredig  (CIOT)
Pobol y We
Dylunio Gwe Ymatebol